Cymraeg
English

nefipaca  

Alpacod o ansawdd, gwlân nefolaidd

01341 450762, post@nefipaca.cymru


Blog Monty

Alpaca bywiog a deallus ydi Monty. Hwyrach bod gynno fo feddwl sy'n fwy ffein na'i gnu, ond mae hyn yn ei weddu i'r dim. Mae'n gweithio fel anifail-lefarydd NefiPaca, fel gwarchodwr y ferched, a fel cydymaith a threfnydd y stydiau pan bo angen. Mae ei flog yn cynnig cipolwg ar fywyd fferm ym mynyddoedd prydferth Eryri; ar y flwyddyn ffermio alpaca; ar fywyd cymdeithasol y fuches ac weithiau ychydig am y bobl sy'n byw yno.



Cofnodion Blog Diweddaraf:

12 Mawrth 2017
Ydw i'n Gymro eto?
26 Medi 2015
Diben Iaith, fy iaith i beth bynnag...
15 Gorffennaf 2015
Nghyfrinach i wedi'i datgelu!
15 Mehefin 2015
Ar y gweill...

Blog ar gyfer darllenwyr dwyieithog ydi hwn - er bod Monty wedi bod yn blogio yn y ddwy iaith, na fydd y blogiadau'n debyg o drin yr un un bynciau!




Ydw i'n Gymro eto?
Postiwyd gan montypaca | ar 12 Mawrth 2017



Mae'r defaid yn ôl, ochr arall y wal ac maen nhw di dechrau dadl. Barn bendant un ydi mod i ddim. Mae hi'n mynd cam ymhellach, gan ddweud sdim modd yn y byd crwn i mi ddod yn Gymro chwaith, am mod i heb gael fy ngeni yng Nghymru a dyma ddiwedd y mater. Mae pob dim wedi'i osod mewn concrid yn y gorffenol iddi hithau, sy'n drist o beth. Mae gan pob ŵlad waraidd arall ryw fodd i estron ddod yn ddinesydd nacoes? A dinesydd go iawn: pwy fase am fyw mewn cymdeithas ddwy-haen? Mae 'na ddigon o'r math hwnna o beth yn y byd fel y mae o.

Paid poeni - twt lol ydi'r ddadl na, yn ôl un arall. Er bod eu cnefin yn hollbwysig i ddefaid, nid lleoliad y geni sy'n cyfri ond lleoliad y bwyta. Dan ni i gyd yn bwyta gwair Cymru, sy'n codi o'r tir ei hun. Mae ein cyrff ni wedi'u gwneud allan o'r tir, mewn ffordd uniongyrchol bron a does dim byd mwy Cymreig na hynna, nacoes? Felly ei dadl hi ydi mod i'n Gymro erbyn hyn, cystal â nhw.

Daeth fy ffrind Meee!ri aton ni wedyn a dadlau nad ydi lleoliad y geni na gwraidd y bwyd yn allweddol. Mi atgoffodd hi ni bod y bobl-ddynol bron* byth yn rhoi genedigaeth yn y caeau. Ro'n i wedi sylwi ar hyn. Ond yn ôl Meee!ri dydyn nhw ddim yn cael eu babis tu mewn yn eu tai cynnes chwaith. Credwch neu beidio, maen nhw'n mynd i ffwrdd at ryw leoliad arbennig, sydd yn aml iawn dros y ffin yn Lloegr.

(Ddaru'r un gynta drio dadlau rwan bod hyn yn profi ei phwynt hi, mai i'r defaid y dylai Cymru fach berthyn, am fod dim ond nhw sy'n sicr o fod yn Gymry go iawn, ond rowliodd eu llygaid naeth y mwyafrif. Hen ddadl ydi hon mae'n amlwg.)

"Diwylliant sy'n cyfri, te" meddai Meee!ri. "Beee! ydi honna?" gofynnodd yr un fach sy'n gallu bod braidd yn araf ar brydiau. Mae Meee!ri mor amyneddgar, chwarae teg iddi hi. "Yr hyn dan ni'n neud rŵan hyn...y gymdeithas dan ni'n ei chreu, ein ffordd ni o fod 'fo'n gilydd, yr hyn dan ni'n ei rannu sydd falle tipyn yn wahanol na rhywle arall."

"Yr iaith ti'n olygu te?"

"Nacydw! Modd handi o ddangos y gwahaniaeth ydi iaith ond fedr hi ddim creu cenedl ar ben ei hun. Os felly, base pob siaradwr yn genedlaetholwr, a dydan nhw ddim. Beth bynnag, ar hyn o bryd mae llwyth o Gymry-dynol sy ddim yn medru'r iaith o gwbl."

"Wir?"

"Ie wir! Rhaid i ti fynd allan o Feee!rionnydd ryw dro..... Dw i di clywed bod na ryw gynllun cynyddu'r niferoedd, mae bron pawb yn cytuno ar i'r genhedlaeth nesa (neu'r un ar ôl hynna) fod yn hollol ddwyieithog ond dach chi'n gwybod pa mor araf mae nhw'n bridio. Mae'n mynd i gymryd degawdau. Yn y cyfamser, math o drysor cenedlaethol ydi'r iaith, ond un na sgan pawb fynediad ato fo, felly mae'n rhaid diffinio Cymreictod ar sail y pethau mwy amhendant sydd rhyngddon ni."

Falle bod yr un fach ddim mor araf ag o'n i'n ei feddwl, dim ond un sy'n cymryd ei hamser i feddwl yn ddyfnach ydi hi. "OND...." medde hi, "Dw i ddim yn gweld sut y bydd neb yn cytuno ar be sy'n ran o'n diwylliant ni, a be sy ddim. Mae lot mwy o wahaniaethau rhwng rhai grŵpiau o'r bobl-ddynol tu mewn i Gymru nag efo rhai mewn gwledydd eraill. Mae rhai o'n cerddorion ni yn agosach at Lydaw na Chaerdydd... A dydi diwylliant ddim yn syfyll yn stond chwaith. Tase hen gapelwr o'r 19eg ganrif yn ddod i Feee!irionnydd heddiw, fase fo'n adnabod ein diwylliant ni fel ei ddiwylliant o? Dw i ddim yn meee!ddwl.

Ond rhaid i ddiwylliant fod yn rhydd i newid. Dan ni ddim yn byw mewn amgueddfa ("Eeee!to," torrodd rhywun ar ei thraws hi. Roedd hi ar fin dechrau ar ganlyniadau Brecsit dw i'n amau, ond chafodd hi mo'r cyfle, diolch byth.)

I'w barhau....


Diben Iaith, fy iaith i beth bynnag...
Postiwyd gan montypaca | ar 26 Medi 2015



Peth cymhleth ydi'r Gymraeg ma. O leia, dydi agweddau pobl ati hi ddim yn syml o gwbl. Yn ôl y sôn, dydi'r hyn dw i'n ei sgwennu yn fan hyn ddim yn Gymraeg "go iawn", "dim ond" y Gymraeg lafar ydi hi. Mater arall ydi'r Gymraeg y-sgrifen-edig, ac o ran hynny mae un arall mwy cymhleth byth, sef yr iaith lenyddol. Rowlio'i llygaid roedd Ethel tra bo hi'n sôn am hyn. Paid poeni, mae hi'n dweud, gan roi'r bai ar y bobl-ddynol sy bob tro yn or-gymhlethu pethau. (Mae'n ran o'u natur, druan iddyn nhw.) Swn i'n sgwennu yn union fel dw i'n siarad, bydd pawb yn fy nallt i a dyna be sy'n cyfri tydi? Dafad ddoeth ydi Ethel.

Byddwch chi wedi sylwi erbyn hyn nad ydi'r blog Cymraeg ma ddim cweit yr un peth â'r dudalen Saesneg. O'n i'n meddwl ar y dechrau gwneud cyfieithiad ond.. pam?! Dydi Cymru ddim yn cael ei rhannu rhwng y bobl sy'n siarad Saesneg a'r rhai sy'n siarad Cymraeg. Mae rhaniad ond ar sail y bobl Saesneg eu hiaith a'r rhai sy'n ddwyieithog. A'r peth am fod yn ddwyieithog hyd y gwelai ydi bod modd cael dwywaith y hwyl. Felly dw i di penderfynu: dw i ddim yn mynd i gyfieithu dim byd ar y blog ma. Ceith y di-Gymraeg blog Saesneg, fydd yn gwneud ryw fath o synnwyr iddyn nhw (fel arfer). Ond bydd y bobl ddwyeithog yn cael bonws, hanesion a sylwadau egstra genai. Os bydd y di-Gymraeg yn sylweddoli ryw ddydd bod nhw'n colli allan, wel, bydd gynnon nhw reswm wedyn dros ddysgu nafydd?


Nghyfrinach i wedi'i datgelu!
Postiwyd gan montypaca | ar 15 Gorffennaf 2015



Reit, falle bo' chi di sylwi ar newid bach ar y blog 'ma. Dw i heb fod o gwmpas am sbel ac mae'n hen bryd i mi ddweud wrthoch chi be dw i wedi bod wrthi'n gwneud. Ond mae'n amlwg rŵan te? Dw i di dechrau dysgu Cymraeg!

Dyma i chi Ethel a'i chyfeillion M-eeeri! a Myfanwy, defaid mynydd gorau yn y byd. Mae arna i ddyled fawr iddyn nhw am eu bod nhw mor gyfeillgar ac amyneddgar, a phenderfynol mod i'n dysgu sut i gyfathrebu'n iawn. Defaid rhydd ydyn nhw hefyd, mewn enaid o leia, ac yn gorfforol pan ddaw y cyfle. Mi ddarganfes i wedyn bod Ethel yn ddafad Griffith, o fferm hanner-filltir i'r gogledd, achos dyna bwy ddaeth i'w chasglu hi unwaith bod y bobl-ddynol yma wedi'i dal hi, ond sneb yn gwybod hyd heddiw o ble daeth M-eeeri! a Myfanwy. Wel, maen nhw'n gwybod wrth reswm, ond tydyn nhw ddim am ddweud... Naeth y ffermwr drws nesa eu cymryd nhw yn y cyfamser, a fy mhobl i yn myngial rhyw lol am "beioseciwriti". Ta waeth, dan ni'n cael sgwrsio dros y wal rŵan, a dw i'n eitha hyderus y bydd Ethel yn ôl cyn bo hir...


Ar y gweill...
Postiwyd gan montypaca | ar 15 Mehefin 2015

{Ymddengys bod Monty wrthi yn cynllunio rhywbeth arbennig i chwi, annwyl ddarllenwyr Cymraeg... gwyliwch y gofod hwn!}