Alpacod o ansawdd, gwlân nefolaidd
01341 450762, post@nefipaca.cymru
Croeso i Nefi Paca , fferm alpaca yng nghalon Eryri. Yn Nefi rydym yn dwli ar alpacod o bob liw ac yn anelu at eu bridio i'r safon uchaf. Fel arfer bob blwyddyn bydd ychydig ar gael i'w prynu. Hefyd mae ein stydiau ni ar gael i wasanaethu ledled Gogledd Cymru.
P'un a ydych yn chwilio am bedigri arbennig i gyd-fynd â'ch presennol fuches, neu os ydych yn fridiwr newydd sydd am ddewis stoc sylfaen gadarn, mi fyddwn ni'n falch iawn o'ch helpu chi. Mae croeso i chi gysylltu â ni i drefnu ymweliad.
I'r artist ffeibr neu grefftwr, mae rhywbeth arbennig iawn am weithio gyda cnu oddi wrth eich anifeiliaid eich hun. Byddwch yn dod i adnabod gwahanol rhinweddau pob rhan o gnu pob alpaca, ac yn penderfynu dros eich hunan y ffordd ydych chi am ei defnyddio.
Mae alpacod yn gwneud anifeiliaid anwes maes gwych - maent yn llai o waith na cheffylau, yn fwy diddorol na defaid! Mae eu deallusrwydd a natur chwilfrydig yn eu gwneud yn hwyl i fod o'u cwmpas nhw. Maent yn gryf ac yn gymharol hawdd gofalu amdanynt. Maent yncynhyrchu gwrtaith mewn pentyrrau cymharol taclus ar gyfer yr ardd ac yn gwneud gwaith ardderchog wrth gadw'r gwair i lawr.
Mae gan yr alpaca reddfau buches cryf a bydd yn gweithio gydag eraill i amddiffyn aelodau mwya bregus y fuches - y rhai beichiog a'r crias. Os fydd alpaca wedi'i gadw gyda defaid am sbel yn dod i'w hystyried nhw fel ei fuches (ddiadell) ei hun, yna y bydd yn gweithredu yn erbyn unrhyw ysglyfaethwr...