Alpacod o ansawdd, gwlân nefolaidd
01341 450762, post@nefipaca.cymru
*** Gwasanaethau Styd - Cynnig Arbennig ar gyfer 2017 ***
Daeth Ice atom o fuches Nero Black yn Northumberland. Yr adnabyddus Warramunga Miguel ydi ei dad ac mae'n ddu triw i gyd. Mae Ice hefyd yn siampiwn o sîn y sioeau, fel y gwelir yma:
Year | Show | Class | Posn |
---|---|---|---|
2011/05 | Northumberland | Huacaya Junior Male - Black | 1st |
2012 | Futurity | Huacaya Intermediate Male - Bl | 3rd |
2013 | Yorkshire Alpaca Group Show | Huacaya Adult Male - Black | 1st |
2013 | Yorkshire Alpaca Group Show | Huacaya Champion Black Male | CHAMPION |
2013 | Westmorland County Show | Huacaya Adult Male - Black | 1st |
2014 | N W A G Alpaca Championship | Huacaya Adult Male - Black | 1st |
2014 | N W A G Alpaca Championship | Huacaya Champion Black Male | Reserve Champion |
2014 | Spring Alpaca Fiesta - H O Eng | Huacaya Adult Male - Black | 2nd |
2014 | Northumberland | Huacaya Adult Male - Black | 1st |
Gan fod Ice yn gymharol newydd i NefiPaca, mae ei epilion hyd yn hyn yn dal yn ifanc ond rydym wrth ein boddau efo nhw. Dyma rai ohonynt!
Mae Morgan ac Ice eu dau ar gael ar gyfer cymharu allanol yn 2017. Gadewch i ni ddod atoch chi! Derbynir ceisiadau ledled Gogledd Cymru a'r Canolbarth, ynghyd â hanner gorllewin Swydd Amwythig. Does dim costau teithio i'w hychwanegu gyda isafswm o ddau wasanaeth, a ellir eu darparu gan un styd neu'r dau. (Mae uchafswm o ddau wasanaeth y styd mewn un ymweliad.)
Nifer o ferched | Pris | Teithio |
1 | £600 | 50c/milltir |
2 | £1200 | AM DDIM |
3 | £1500 | AM DDIM |
4 | £2000 | AM DDIM |
Mae cyplad teithiol yn cynnwys o leia dau ymweliad ganlynol yn ôl y galw: ymhen 7 diwrnod er mwyn cadarnhau ofwliad (ovulation) ac wedyn ymhen 7 diwrnod arall er mwyn cadarnhau bod beichiogiad yn debygol, efo ail-gymharu os bydd yr angen. Ni fydd cais ar ôl y trydydd heb gyngor eich milfeddyg. Cynnigwn "live birth guarantee": ni fydd disgwyl i chi dalu cyn i'r beichiogiad gael ei gadarnhau (trwy modd i'w cytuno arno). Hefyd os na fydd cria byw o ganlyniad o feichiogiad wedi'i gadarnhau, cynnigir cymharu arall fel amnewidiad.
** Gwerthfawrogir eich archebion cynnar gan fod angen cynllunio amserlen y stydiau ar gyfer y flwyddyn. ***